Pedair llysgennad o Abertawe i’r Coleg Cymraeg

Eu prif weithgarwch fydd annog mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastu

gan Elin Wyn Owen

Mae pedair myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi cael eu dewis fel llysgenhadon y Coleg Cymraeg dros y flwyddyn nesaf. 

Mae Elen Wyn Jones, Beca Mai James a Cara Medi Walters yn ymuno â thîm o fyfyrwyr is-raddedig o brifysgolion Cymru a fydd yn hyrwyddo’r Coleg a manteision addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Eu prif weithgarwch fydd annog mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. 

“Ro’n i eisiau her newydd a chael cyfle i geisio hybu’r iaith yn y Brifysgol a thu hwnt,” meddai Elen Wyn Jones, sy’n dilyn cwrs gradd Cymraeg, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn y Brifysgol. “Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod pobl ifanc eraill ar hyd a lled Cymru.”

Dywed y cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ym Môn, ei bod wrth ei bodd yn Abertawe. “Mae’n gyfle gwych i gymdeithasu a dod i nabod llawer o bobl newydd a byw efo pobl Gymraeg eraill.”


O Waungilwen, ger Llandysul, y daw Beca Mai James, sydd ar ail flwyddyn ei chwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Gan fy mod i wedi gwneud fy addysg ysgol i gyd yn y Gymraeg, rwy’n gallu teimlo’n hyderus wrth sgwennu a chyflwyno fy ngwaith yn fy iaith gyntaf,” meddai.

“Dw i wrth fy modd â’r syniad o allu hyrwyddo’r iaith Gymraeg i fyfyrwyr eraill, a dw i’n edrych ymlaen at allu dod i nabod llysgenhadon eraill y Coleg Cymraeg.”


Cymraeg a Hanes yw pynciau Cara Medi Walters a ddaw o Bontiets yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r ddau bwnc wedi bod o ddiddordeb imi ers yn ifanc,” meddai. “Dw i’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn! Ac mae lleoliad y Brifysgol yn anhygoel yn enwedig wrth edrych ar yr olygfa odidog yn Y Mwmbwls.

“Dw i’n edrych ymlaen at ysgrifennu blogiau a rhannu fy mhrofiad yn y Brifysgol gydag eraill.”


Y bedwaredd llysgennad yw Alpha Evans, o Lambed, sydd yn un o’r wyth llysgennad ôl-radd sydd wedi eu penodi eleni gan y Coleg Cymraeg. Mae Alpha’n ymchwilio ar gyfer doethuriaeth ar ddiwylliant, iaith a gweithrediadau cyfreithiol yn Abertawe 1870–1914, ac meddai, “Rwy’n falch iawn i fod yn rhan o’r Cynllun Llysgenhadon Ôl-radd oherwydd bydd yn gyfle gwych i adeiladu ar gymuned ôl-radd y Coleg Cymraeg, hyrwyddo gwaith marchnata’r Coleg a chynyddu ymwybyddiaeth am y Rhaglen Sgiliau Ymchwil.”