Myfyrwyr yn gwobrwyo darlithydd am ei ymroddiad

Derbyniodd Dr Thomas ei wobr mewn noson wobrwyo a dathlu yng Nghanolfan yr Egin, a chlywodd y gynull

gan Elin Wyn Owen

Mae darlithydd ymroddgar ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr genedlaethol am y ffordd mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ei fyfyrwyr.

Dr Gethin Thomas, Uwch-ddarlithydd mewn Biowyddorau, yw enillydd Gwobr y Myfyrwyr y Coleg Cymraeg eleni.

Mae’r wobr hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi eu hysbrydoli ac wedi gwneud cyfraniad eithriadol at eu profiad a mwynhad o fywyd prifysgol.

Derbyniodd Dr Thomas ei wobr mewn noson wobrwyo a dathlu yng Nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin, ym mis Gorffennaf.

Roedd y noson yn rhan o ddathliadau’r Coleg Cymraeg yn 10 oed a hefyd yn gyfle i ddiolch i fyfyrwyr a darlithwyr wedi dwy flynedd anodd.

Clywodd y gynulleidfa fod gan fyfyrwyr Dr Thomas feddwl uchel iawn ohono, fel sy’n amlwg o sylwadau fel y rhain a wnaed wrth ei enwebu: “Wrth ddysgu enwau rhywogaethau a chysyniadau biolegol yn Gymraeg gyda Dr Thomas, rwyf wedi gallu siarad ar y radio ac ar y teledu, sydd wedi bod yn gyfle gwych ac yn gyfle na fyddwn wedi ei gael oni bai fy mod wedi cael fy nysgu trwy’r Gymraeg.

“Mae hyn hefyd wedi fy helpu i ddechrau fy ngyrfa mewn Bioleg y Môr a thrwy ddysgu’r cysyniadau hyn drwy’r Gymraeg, rwyf wedi dechrau fy interniaeth gyntaf lle mae creu adnoddau addysg yn ddwyieithog yn rhan enfawr o fy swydd.”

Yn ôl myfyriwr arall: “Dr Thomas yw fy nhiwtor. Llynedd, roeddwn yn dioddef gyda llawer o faterion yn fy mywyd personol ac roedd y gefnogaeth a gefais gan Dr Thomas yn anhygoel. Roedd y gwahaniaeth a wnaeth hyn i fy mywyd prifysgol yn anfesuradwy (ni allaf bwysleisio hyn ddigon) ac rwy’n meddwl ei fod yn wirioneddol haeddu’r wobr hon.”

Dywedodd Dr Thomas ei fod yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth yn fawr iawn.

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint ennill Gwobr y Myfyrwyr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn fwy fyth oherwydd taw’r myfyrwyr eu hunain oedd wedi fy enwebu,” meddai.

“Mae’n galonogol gwybod bod y myfyrwyr yn gweld gwerth yn y ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg yn y biowyddorau ac yn teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i barhau gyda’u hastudiaethau’n ddwyieithog.”