Fe fu merched a oedd ar flaen y gad wrth drin cleifion COVID19 yn trafod eu profiadau yn ystod y pandemig mewn sgwrs yn y Brifysgol yn gynharach eleni.
Roedd Merched Meddygol – Profiadau o’r Pandemig yn un o gyfres o ddigwyddiadau gan Brifysgol Abertawe i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.
Yn y drafodaeth o dan arweiniad yr Athro Angharad Puw Davies, arbenigwraig ar afiechydon heintus, roedd y panel o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn cynrychioli ystod o brofiadau a gwahanol swyddogaethau.
Yr effaith ar ysbytai ac unedau gofal dwys a gafodd brif sylw’r Athro Gwyneth Davies, Ymgynghorydd Resbiradol a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Feddygaeth. Fe fu Dr Llinos Roberts, Arweinydd Cwrs Dysgu Cymunedol y cwrs Meddygaeth i Raddedigion, yn ymdrin â’i phrofiadau fel meddyg teulu, ac fe fu Shannon Rowlands, sydd yn cwblhau ei blwyddyn olaf o’r cwrs Meddygaeth i Raddedigion yn trafod ei phrofiadau hithau fel myfyriwr ar leoliadau gwaith.
“Hoffwn ddiolch i’r tair am eu cyfraniadau diddorol a chraff a oedd yn rhoi rhywfaint o flas inni o’u profiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai’r Athro Angharad Puw Davies.
“Mi gawson ni sgwrs hynod ddifyr yn clywed persbectif y tair ar bob agwedd o’u gwaith a’u bywydau fel merched meddygol yn ystod y pandemig.
“Rhannodd y dair eu hatgofion o’r dyddiau cynnar yn trin cleifion efo haint newydd sbon heb fawr o wybodaeth na dealltwriaeth ohono, am y gwahanol heriau personol wynebodd pob un ohonynt, a sut gwnaethon nhw ymdopi yn eu bywydau teuluol.
“Roedd y sgwrs yn ein hatgoffa o’r oll rydym wedi ei ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mi wnaethon ni hefyd gyffwrdd ar yr effaith gafodd y pandemig ar fywydau merched ar draws y byd yn fwy cyffredinol.”
Gobaith y bedair ar ddiwedd y drafodaeth oedd bod y pandemig wedi profi gwerth y gwasanaeth iechyd ac y bydd yr ysbryd gymunedol a welwyd drwy Gymru gyfan yn gallu parhau.
Mae modd gwylio’r drafodaeth eto ar wefan Academi Hywel Teifi.