Fel elusen sy’n gweithredu fel llais i bron 20,000 o fyfyrwyr, mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe bresenoldeb amlwg ar ddau gampws y Brifysgol. Yn ogystal â rhedeg pedair siop a thri bar, mae’n cynnal 280 o ddigwyddiadau i fyfyrwyr bob blwyddyn.
Yn rhedeg yr undeb mae tîm o chwech o swyddogion llawn-amser etholedig, ac yn eu plith am y flwyddyn nesaf mae tri sy’n rhugl eu Cymraeg, gan gynnwys y Llywydd, Esyllt Rosser, Tom Kemp, y Swyddog Materion Cymraeg, a Gwern Dafis, y Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau.
Dywed y tri eu bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at eu gwaith dros y flwyddyn nesaf …
Esyllt Rosser – Llywydd yr Undeb
“Ar ôl blwyddyn o fod yn Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau i’r Undeb, dw i wrth fy modd o allu parhau i gynrychioli myfyrwyr Prifysgol Abertawe am flwyddyn arall.
“Yn wreiddiol o Gaerdydd, dw i wedi bod yn byw yn Abertawe ers pum mlynedd bellach, gan astudio Daearyddiaeth i ddechrau ac ar ôl hynny gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth.
“Eleni dwi’n awyddus i adeiladu ar waith llynedd, fel y gwaith ar Amgylchiadau Esgusodol ac adfer Wythnos y Glas, yn ogystal â gwneud y campws yn fwy hygyrch a chynaliadwy.
“Dw i’n awyddus hefyd i greu mwy o sianeli i fyfyrwyr allu rhoi adborth yn uniongyrchol i’r Undeb am eu profiadau yn Abertawe. Ac wrth gwrs mae ailagor Tooters ar ben fy rhestr!”
Tom Kemp – Swyddog Materion Cymraeg
“Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn bethau dw i’n teimlo’n hynod o angerddol amdanyn nhw. Dw i wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gydol fy addysg, gan gynnwys fy amser yma ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio gradd BSc Daearyddiaeth.
“Yn wreiddiol o Bontypridd, mae’r iaith Gymraeg wedi cynnig llawer o brofiadau i mi ar hyd y blynyddoedd, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac rwy’n hynod o ddiolchgar i fod yn ddigon ffodus i siarad yr iaith.
“Dros y flwyddyn academaidd nesaf, fy ngobaith yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yn greiddiol i bopeth y mae’r Brifysgol yn ei wneud, a chynyddu cysylltiad ein Cymdeithas Gymraeg â myfyrwyr di-Gymraeg a rhyngwladol er mwyn sicrhau fod pawb yn cael profiad Cymraeg yn ystod eu hamser yma yn Abertawe!”
Gwern Dafis – Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau
“Yn wreiddiol o Dalgarreg yng Ngheredigion, mae cymuned wastad wedi bod yn bwysig i mi, a dyma’r union beth mae’r Undeb wedi’i roi i mi!
“Rwy’ am sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud y gorau o’u hamser yn y Brifysgol boed hynny’n aelod o gymdeithas neu’n manteisio ar ein gwasanaethau fel Undeb.
“Un o fy mhrif nodau ar gyfer y flwyddyn yw creu cysylltiadau o fewn a thu allan i’r Undeb i noddi ein cymdeithasau a chynnig adnoddau ychwanegol er budd y myfyrwyr.
“Ac wrth gwrs beth sydd ar feddwl pawb yw ‘Rebound’ – ein clwb nos sydd wedi bod ar gau ers dechrau’r pandemig, ac felly bydd ail-agor hwn yn allweddol i brofiad y myfyrwyr! Dw i’n methu aros i gael torchi llewys a dechrau ar y gwaith!”