I ba raddau mae Cymry Cymraeg hŷn yn gallu derbyn gofal yn eu haith eu hunain? A pha mor bwysig yw hyn yn eu golwg?
Dyma rai o’r cwestiynau mae ymchwilydd o’r Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe yn gobeithio cael atebion iddynt mewn astudiaeth unigryw.
Mae Angharad Higgins, myfyrwraig PhD o’r Ganolfan, wrthi ar hyn o bryd yn siarad gyda siaradwyr Cymraeg hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal neu leoliadau gofal fel ysbytai am y Gymraeg a’i rhan yn eu bywydau.
“Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i bobl o gymunedau Cymraeg dderbyn gofal mewn ardaloedd eraill weithiau, gan leihau eu cysylltiad dyddiol â’u hiaith gyntaf o bosib,” meddai Angharad.
“Efallai na fyddan nhw’n byw ymhlith pobl mae ganddyn nhw hanes cyffredin â nhw.
“Rydyn ni am ddeall beth sydd wedi newid yn eu bywydau ers iddyn nhw fynd i leoliad gofal a’r gwahaniaeth mae hyn wedi’i wneud iddyn nhw.”
Mae’r astudiaeth yn cael ei hariannu gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, a’r gobaith yw y bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio maes o law i helpu rhannu arferion da.