A ddylai fod yn orfodol i bobl gael eu brechu yn erbyn heintiau difrifol er lles cymdeithas?
Dyma oedd y cwestiwn llosg ac amserol y bu cystadleuwyr Tlws Her Sefydliad Morgan yn dadlau yn ei gylch yn y GwyddonLe eleni.
Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei noddi gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan Prifysgol Abertawe, yn un o brif ddigwyddiadau’r GwyddonLe ers rhai blynyddoedd bellach, a’r testun eleni’n cyd-blethu â thema ‘Iechyd’ y pafiliwn.
Daeth cynulleidfa fawr i wylio’r ddadl a chlywed disgyblion o Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Bro Pedr yn mynd ben ben, gyda dadleuon grymus a chadarn o blaid ac yn erbyn brechu gorfodol.
Hanna Morgans o Ysgol Bro Teifi oedd enillydd Tlws Her Sefydliad Morgan 2022 fel siaradwr gorau’r gystadleuaeth, ar ôl cael ei dyfarnu fel y siaradwr gorau o blaid y gosodiad. Cyd-ddisgybl iddi, Rebecca Rees, oedd y siaradwr gorau yn erbyn, ac mae’r ddwy wedi ennill gwobr ariannol o £500 i’w hysgol.
Fel rhan o’i gwobr am ennill y Tlws, bydd Hanna yn cael cyfle hefyd i fynd ar brofiad gwaith o’i dewis hi wedi’i drefnu gan Academi Hywel Teifi.
Roedd y beirniaid, Llŷr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru, a’r Athro Angharad Puw Davies o Ysgol Feddygaeth Abertawe, yn uchel eu clod am safon y gystadleuaeth ac yn disgrifio’u tasg o ddewis enillydd fel un anodd iawn.
“Roedd hi’n braf beirniadu’r gystadleuaeth yma yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai Llŷr Gruffydd. “Fe glywsom areithwyr graenus a hyderus iawn, ac roedd hi’n gystadleuaeth glòs.”