Canolfan addysg newydd i fyfyrwyr meddygol

Yn sgil y ganolfan newydd bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gallu ymestyn i ardaloedd mwy

gan Elin Wyn Owen

Mae Prifysgol Abertawe wrthi’n datblygu canolfan addysg feddygol a fydd yn rhoi cyfle ymarferol i fyfyrwyr ddysgu am faes meddygaeth teulu y tu allan i amgylchedd ysbyty.

Yn sgil y ganolfan newydd yn Aberystwyth, gerllaw un o feddygfeydd y dref, bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gallu ymestyn i ardaloedd mwy gwledig eu naws.

Nod y cynllun, a gafodd gyllid o £700,000 gan Lywodraeth Cymru, yw helpu i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygaeth a gaiff eu recriwtio o ardaloedd gwledig. Y gobaith wedyn yw y bydd hyn maes o law yn arwain at gynnydd yn nifer y meddygon teulu yn ardaloedd gwledig y canolbarth a’r gorllewin.

Bydd y ganolfan newydd hefyd yn galluogi meddygon teulu sydd yn yr ardal ar hyn o bryd i ymestyn eu portffolio academaidd, gan eu hannog i barhau i weithio yno.

Dywedodd Dr Heidi Griffiths, Athro Cyswllt Gofal Sylfaenol yr Ysgol Feddygaeth, fod y datblygiad yn gam pwysig ymlaen wrth fynd i’r afael â gwendidau penodol yn y ddarpariaeth bresennol o hyfforddiant.

“Mae 90 y cant o weithgarwch y Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain ym maes gofal sylfaenol,” meddai. “Eto i gyd mae cyrsiau meddygaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i arbenigeddau meddygol yn yr ysbyty.

“Ar ben hynny, mae dwy ysgol feddygaeth Cymru yn y de – ac nid yw hyn yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth yng ngweddill Cymru.

“Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn creu canolfan ar gyfer addysg feddygol mewn cymunedau gwledig, trwy greu amgylchedd dysgu ac addysgu modern.”

“Yn y ganolfan newydd, bydd

myfyrwyr yn dysgu rhesymu clinigol a meddygaeth sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae’r fenter yn cydnabod iechyd a lles yr unigolyn cyfan, gan roi’r claf yn hytrach na’r clefyd, wrth wraidd yr hyn a ddysgir.

“Bydd hyn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gymwys, yn hyderus ac yn rhoi pwyslais ar y gymuned.”

Mae’r datblygiad wedi cael ei groesawu’n frwd hefyd gan Dr Siôn James, meddyg teulu yn Nhregaron a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Dyma newyddion calonogol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’n cymunedau lleol,” meddai. “Gall gyrfa ym maes gofal sylfaenol mewn lleoliadau gwledig fod yn destun boddhad mawr. A gall gwella’r amgylchedd dysgu ac addysgu yn ein hardal ein helpu i ddenu a chadw’r staff clinigol gorau ar gyfer ein poblogaeth.”