Fel ‘Brenhines darlledu Cymru’ y cafodd Beti George ei chyflwyno wrth gael ei hanrhydeddu â gradd Doethur mewn Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yr haf hwn.
Mae’r newyddiadurwr a’r darlledydd radio sy’n enedigol o Goed-y-Bryn ger Llandysul wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd i genedlaethau o wylwyr a gwrandawyr y cyfryngau Cymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Mae hi hefyd wedi dod yn ymgyrchydd blaenllaw dros godi ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer a thros well gofal i bobl sy’n byw â dementia.
Dechreuodd Beti George ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda’r BBC yn Abertawe ar ddechrau’r 1970au cyn cyflwyno rhaglenni newyddion, materion cyfoes a cherddoriaeth ar S4C yn y 1980au.
Ers 1987 mae hi wedi cyflwyno sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru, Beti a’i Phobol. Mae hi hefyd wedi cyflwyno noson olaf cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ers sawl blwyddyn.
Yn 2017, derbyniodd rhaglen ddogfen a oedd yn portreadu ei bywyd gyda’i phartner, y diweddar ddarlledwr David Parry-Jones, David and Beti: Lost for Words, wobr aur yng Ngŵyl Ffilmiau a Theledu Efrog Newydd. Mae hi ar restr Wales Online o 100 o Fenywod Cymru, a derbyniodd wobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru yn 2016 a Gwobr Cyflawniad Oes John Hefin yn 2018. Mae hi hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1986.
Yn 2021, golygodd a chyhoeddodd gasgliad o ysgrifau Cymraeg o’r enw ‘Datod’ a roddodd lais i unigolion a theuluoedd yng Nghymru sy’n byw gydag effeithiau dementia. Gyda thros 50,000 o bobl yn byw nawr gyda dementia yng Nghymru a mwy eto yn debygol o ddatblygu’r afiechyd yn y dyfodol, mae’r gyfrol wedi helpu i amlygu’r her anferth sy’n wynebu’r genedl.
Wrth annerch y gynulleidfa yn y seremoni, anogodd Beti George raddedigion Prifysgol Abertawe i gofio eu bod yn genhedlaeth sydd wedi gallu addasu ac ymdopi â chyfnod hynod heriol a digynsail yn ddiweddar a bod y gallu ganddynt i ymateb a datrys rhai o heriau pennaf y byd.
“Mae’n anrhydedd enfawr i gael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Abertawe,” meddai. “Ac yn sicr, mae fy ymgyrch i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gofal dementia yn parhau!”