Swyddog Cangen newydd y Coleg Cymraeg i Abertawe

“Dw i wrth fy modd o allu parhau i gydweithio efo myfyrwyr yn fy swydd newydd, gan gynnwys, wrth gwr

gan Elin Wyn Owen

Indeg Llewelyn Owen yw Swyddog Cangen newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe, sydd newydd gychwyn ar ei gwaith.

Ati hi y bydd myfyrwyr yn troi am arweiniad os ydyn nhw’n awyddus i ddilyn eu cyrsiau, neu rannau o’u cyrsiau, drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â dangos beth sydd ar gael, fe fydd hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddiwallu’r galw os daw unrhyw fylchau i’r amlwg yn y ddarpariaeth.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at helpu myfyrwyr a sicrhau bod gan y Gymraeg y statws mae’n ei haeddu yma yn Abertawe,” meddai Indeg, sydd â phrofiad helaeth o weithio ym myd iechyd a lles myfyrwyr.

Mae hi newydd gwblhau swydd chwe mis ar brosiect datblygu adnoddau iechyd a lles drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr. Mae’r wefan y bu’n gweithio arni – myf.cymru – yn cynnig pob math o wybodaeth a chyngor i fyfyrwyr, gan gynnwys cymorth mewn argyfwng.

Cyn hynny, bu Indeg yn gweithio i Grŵp Llandrillo Menai yn siroedd Gwynedd a Chonwy am ddwy flynedd fel swyddog mentora yn gofalu am les myfyrwyr.

“Dw i wrth fy modd o allu parhau i gydweithio efo myfyrwyr yn fy swydd newydd, gan gynnwys, wrth gwrs, llysgenhadon y Coleg Cymraeg,” meddai.

Fel un a raddiodd mewn Daearyddiaeth Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Indeg yn awyddus i hyrwyddo’r ddarpariaeth sydd ar gael drwy’r Gymraeg mewn gwahanol adrannau yn Abertawe.

“Doedd dim darpariaeth ar gyfer dilyn fy nghwrs drwy’r Gymraeg ar gael i mi, a dw i’n benderfynol o weld myfyrwyr yn manteisio ar gyfleoedd na ches i pan o’n i yng Nghaerdydd,” meddai.

Yn ei hamser hamdden mae Indeg, sy’n wreiddiol o Bwllheli, wrth ei bodd yn hwylio a phadlfyrddio.

“Dw i’n sylweddoli bod Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yn enwog fel llefydd gwych i hwylio a gwneud pob mathau o chwaraeon dŵr ac mae hynny’n ychwanegu at apêl y swydd imi,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at brofi’r dyfroedd yn Abertawe – er na fydd unlle cystal â Phen Llŷn wrth gwrs!”