Hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion Cymraeg

Dyma rai o’r myfyrwyr sydd newydd gwblhau’r cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Uwchradd) drwy gyf

gan Elin Wyn Owen

Gyda galw cynyddol am athrawon cymwys i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mae Prifysgol Abertawe yn ehangu’r ddarpariaeth hyfforddiant ar eu cyfer. Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion trwy gyfrwng y Gymraeg a gychwynnodd dair blynedd yn ôl yn mynd o nerth i nerth.

Hyfforddi athrawon ysgolion uwchradd mae’r cwrs wedi ei wneud hyd yma, ond o fis Medi 2022 bydd darpariaeth ar gyfer rhai â’u bryd ar yrfa fel athrawon cynradd yn ogystal.

“Mae ein cyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion drwy gyfrwng y Gymraeg wedi profi i fod yn llwyddiant mawr,” meddai Siôn Owen, Uwch Ddarlithydd mewn Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon. “Mae’n wych gallu ymestyn y ddarpariaeth i hyfforddi darpar-athrawon ysgolion cynradd, gan y bydd galw mawr amdanyn nhw yn sicr mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru.”

Bydd pob un o’r darpar-athrawon yn mynd ar leoliad ar draws y cyfnod oedran cynradd cyn dewis arbenigo mewn cyd-destunau addysgol y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oed. Bydd hyn nid yn unig yn gwella eu gwybodaeth am addysgu a’r cwricwlwm, ond hefyd yn dwysáu eu dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu.

“Er mwyn eu cefnogi i lwyddo, bydd y darpar-athrawon yn derbyn arweiniad bugeiliol, proffesiynol ac academaidd drwy gydol y flwyddyn,” meddai Siôn Owen.

Dyma rai o’r myfyrwyr sydd newydd gwblhau’r cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Uwchradd) drwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe yn sôn am eu profiadau…

Tomos Powell

Pwnc gradd: Mathemateg 

“Roeddwn i’n Beiriannydd Sifil yn gweithio yn y maes adeiladu ar safleoedd adeiladu tai, adeiladu masnachol a HS2 ond roeddwn i’n awyddus i newid gyrfa. Cefais fy nenu at fyd addysg oherwydd mod i eisiau helpu i agor drysau i blant a gweithio mewn amgylchedd Cymraeg. Rwy’n credu bod fy mhrofiad o’r byd go iawn yn rhinwedd a bydd yn fy nghynorthwyo i fod yn athro da.

“Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cyfle i ddarpar-athrawon weithio mewn ysgolion da o fewn ei rhwydwaith ac mae’r darlithwyr mor gefnogol. Rydw i eisoes wedi derbyn swydd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a byddaf yn dechrau yno ym mis Medi 2022.

“Gan fy mod wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Sifil, rwyf wedi derbyn grant cymhelliant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru am hyfforddi i ddysgu Mathemateg yng Nghymru. Mae yna hefyd gyfle i dderbyn £5,000 ychwanegol gyda chynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory Llywodraeth Cymru os af i ymlaen i addysgu trwy’r Gymraeg.”

Sarah Davies

Pwnc gradd: Saesneg 

“Mae dysgu wedi bod yn uchelgais i mi erioed.

“Roedd y cyfle i astudio ar y cwrs TAR Saesneg yn un hynod bleserus, ac roedd yn well fyth cael y cyfle i gyflawni diwrnodau Ymarfer a Theori trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy’n argymell i unrhyw un sy’n ystyried cwrs TAR i ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, os yn bosib. Mae’r gefnogaeth ychwanegol rydym wedi derbyn gan staff sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth Gymraeg yn Abertawe wedi bod yn wych, ac wedi gwneud y profiad yn un arbennig i mi.

“Rwyf bellach yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar fy swydd fel athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.”

“Rwy’n argymell i unrhyw un sy’n ystyried cwrs TAR i ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, os yn bosib. Mae’r gefnogaeth ychwanegol rydym wedi derbyn gan staff sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth Gymraeg yn Abertawe wedi bod yn wych, ac wedi gwneud y profiad yn un arbennig i mi.

“Rwyf bellach yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar fy swydd fel athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.”