Y Gymraeg yn camu ymlaen ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio strategaeth pum mlynedd sy’n amlygu ei hymrwymiad i ddyrchafu’r i

gan Elin Wyn Owen

Mae Prifysgol Abertawe yn benderfynol o barhau i sicrhau lle blaenllaw a pharhaol i’r Gymraeg yn ei holl weithgareddau ac yn y gymuned leol.

I’r perwyl hwn mae wedi lansio strategaeth newydd sy’n amlygu ei hymrwymiad a’i hamcanion uchelgeisiol i ddyrchafu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r strategaeth, sy’n dwyn y teitl Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe 2022-27, yn cadarnhau’r ymrwymiad i ehangu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiad o’r Gymraeg.

Bydd yn adeiladu ar y cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf ers sefydlu Academi Hywel Teifi yn 2010 a’r cydweithio llwyddiannus gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywed Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, ei bod yn croesawu’r strategaeth fel cam pwysig arall ymlaen i’r Gymraeg yn y Brifysgol.

“Mae’r ddarpariaeth addysg gyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn Abertawe yn eang ac yn gyfoethocach nag erioed,” meddai.

“Mae sylfaen gadarn, felly, i’r strategaeth hon ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gosod nod o sicrhau cynnydd parhaus dros y pum mlynedd nesaf fydd yn galluogi’r Brifysgol i gadarnhau ei lle fel sefydliad sy’n croesawu, dathlu a hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod.”

Meddai’r Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-Ganghellor y Gymraeg a’i Diwylliant: “Prifysgol sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru a phrifysgol i Gymru ydym ni, ac rydym yn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig mewn modd cynhwysol a chroesawgar.

“Mae’r strategaeth hon yn amlygu ein bwriad i sicrhau bod pawb sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru neu sy’n ymweld â’r wlad yn medru profi popeth sydd gan y genedl unigryw hon i’w gynnig yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.

“Bydd y strategaeth hon yn sicrhau bod y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yn rhan annatod o’r profiadau ffurfiannol hynny ar gyfer ein holl fyfyrwyr, a bod ein siaradwyr Cymraeg yn elwa’n llawn ar astudio mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol gwerthfawr.”