Dysgu mwy am gyflwyno’r Gymraeg yn effeithiol i blant bach

Bydd ymchwilio dylanwad y Cwricwlwm newydd i Gymru’n ar ein dysgwyr ieuengaf yn gyfraniad pwysig i d

gan Elin Wyn Owen

Llun: Mudiad Meithrin

Creu dysgwyr amlieithog a all siarad Cymraeg a Saesneg ac o leiaf un iaith arall yw gweledigaeth Cwricwlwm Newydd Cymru a gaiff ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi ymlaen.

Deall y rhan y gall addysg blynyddoedd cynnar ei chwarae wrth gyflawni hyn yw nod prosiect ymchwil doethuriaeth mae’r Brifysgol wedi sicrhau cyllid ar ei gyfer.

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Mudiad Meithrin yw Dinasyddion ifainc Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog? Archwilio rôl Addysg Blynyddoedd Cynnar yn fframwaith Cwricwlwm Newydd Cymru. 

Wrth i’r cwricwlwm newydd ddwyn ynghyd dysgu ieithoedd mewn un maes dysgu a phrofiad, daw rôl holl bwysig addysg blynyddoedd cynnar ynddo yn fwyfwy amlwg. Y disgwyl yw y bydd hyn hefyd yn allweddol wrth osod sylfaen gadarn wrth wireddu’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae dyfodiad y cwricwlwm newydd yn gyffrous iawn ac rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at wireddu uchelgais yr amcanion a osodir ynddo,” meddai Dr Geraldine Lublin, arweinydd y tîm a fydd yn goruchwylio’r ymchwil.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, un arall a fydd yn goruchwylio’r ymchwil, fod y prosiect yn un arloesol.

“Prin iawn yw’r gwaith ymchwil ym maes y blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, felly mae’n wych y bydd gennym gyfle i ddysgu o ganfyddiadau gwaith ymchwil doethuriaeth,” meddai.

“Mae’n amserol oherwydd bod cyfnod o newid mawr gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gorwel – a bydd ymchwilio i ddylanwad hynny ar ein dysgwyr ieuengaf yn gyfraniad pwysig i ddysg a datblygiad polisi.”