Enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi

Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol

gan Elin Wyn Owen

Eleni, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi am y tro cyntaf a bydd yn cael ei defnyddio i gefnogi gwaith ymchwil i hanes y Gymraeg yn Abertawe a Morgannwg.

Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe y llynedd, yw enillydd yr Ysgoloriaeth sy’n werth £3,000.

Mae’r Ysgoloriaeth bellach yn ei helpu i gyflawni ymchwil ôl-radd sy’n archwilio diwylliant, iaith a gweithrediadau cyfreithiol tref Abertawe a Sir Forgannwg rhwng 1870 a 1914.

“Mae’r cyfnod hwn yn arwyddocaol yn natblygiad porthladd Abertawe fel canolfan ddiwydiannol a welodd dwf sylweddol yn ei phoblogaeth a newidiadau cymdeithasol-ieithyddol,” meddai Alpha. “Roedd traean o boblogaeth tref Abertawe a’r cylch yn siarad Cymraeg yn 1891, ond roedd yn gyfnod o newid diwylliannol-ieithyddol, a’m bwriad yw dadansoddi’r newid hwn trwy gyfrwng ffynonellau cyfreithiol.”

Nod yr Ysgoloriaeth yw cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes sy’n ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi at ddysg a diwylliant Cymru.

“Roedd yn fraint enfawr derbyn yr Ysgoloriaeth hon yn enw un o gewri ein cenedl a fu mor weithgar ac angerddol dros y Gymraeg, ei diwylliant ac ysgolheictod Cymru,” meddai Alpha.

“Drwy gydol fy nghyfnod fel myfyrwraig israddedig yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, cefais lawer o gyfleoedd gan Academi Hywel Teifi, ac mae’r Ysgoloriaeth hon yn goron ar y cyfan, ac wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi.”

Beirniaid yr ysgoloriaeth eleni oedd yr Athro M Wynn Thomas, Angharad Mair a Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

“Roedd yn bleser ei chyflwyno i Alpha Evans, un o raddedigion disglair Prifysgol Abertawe,” meddai Dr Gwenno Ffrancon. “Mae’n hynod addas hefyd mai dinas Abertawe sydd wrth galon ei hymchwil. Rwy’n siŵr y bydd ei hastudiaeth ddifyr a gwerthfawr yn glod i Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi a’r cof am Hywel.”

Dywedodd y darlledwr Huw Edwards, mab Hywel Teifi, y byddai ei dad yn ymfalchïo yn yr ymdrechion i hybu gwaith ymchwil safonol a phwysig o ran diwylliant Cymru.

“Fel teulu rydym yn falch iawn o glywed am y penodiad ardderchog hwn, estynnwn ein llongyfarchion cynnes i Alpha, gan ddymuno llwyddiant mawr iddi wrth y gwaith,” meddai.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyda chymorth cyfraniad ariannol gan gwmni cyfryngau Tinopolis Cymru ynghyd â chefnogwyr a chyfeillion Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.