Dathlu Cymru yn ei holl amrywiaeth

Dechreuodd cyffro lliwgar ddydd Gŵyl Ddewi gyda Thŷ Fulton a’r Neuadd Fawr, dau o adeiladau eiconig

gan Elin Wyn Owen

Roedd y Brifysgol yn fwrlwm o weithgarwch ddechrau mis Mawrth wrth ddathlu, arddangos a hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

Dechreuodd y cyffro lliwgar ddydd Gŵyl Ddewi gyda Thŷ Fulton a’r Neuadd Fawr, dau o adeiladau eiconig y Brifysgol, wedi eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd.

Ymysg y gweithgareddau a oedd ar gael roedd sesiynau blasu dysgu Cymraeg i fyfyrwyr a staff. Roedd cyfleoedd hefyd i fynd naill ai ar daith gerdded i Ben y Fan, neu i ymweld â Pharc Margam, ac i ddysgu sut i bobi pice ar y maen dros Zoom dan arweiniad Cegin Mr Henry.

Parhaodd y dathliadau drwy’r wythnos, gan adeiladu’n raddol at uchafbwynt ar y dydd Gwener, gyda diwrnod arbennig – Diwrnod Cymru.

Yn ogystal â pherfformiadau gan Gymdeithas Gorawl a Chymdeithas Cerddorion Prifysgol Abertawe, profodd y stondinau bwyd hefyd yn hynod boblogaidd, gyda danteithion traddodiadol fel bara brith a phice ar y maen.

“Roedd y diwrnod arbennig hwn i ddathlu cerddoriaeth, bwyd a diwylliant Cymru, yn coroni wythnos gofiadwy,” meddai Lynsey Thomas, Rheolwr Hyrwyddo a Marchnata Academi Hywel Teifi.

“Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr o bedwar ban byd gael blas ar Gymru yn ei holl gyfoeth ac amrywiaeth.

“Drwy fod â’n stondinau ein hunain yno, roedd yn gyfle hefyd i ninnau fel Academi dynnu sylw at ein gwaith, ynghyd â Chymdeithasau Cymraeg yr Undeb a Menter Iaith Abertawe.

“Uchafbwynt y diwrnod i lawer oedd perfformiad gan yr anhygoel Band Pres Llarregub, a oedd yn sicr wedi creu argraff.

“Profodd holl weithgareddau’r wythnos i fod yn llwyddiant mawr, a’r awyrgylch hyfryd yn llonni calonnau pawb ar ôl hirlwm y cyfnodau clo.”