Dathlu canrif o ddatblygiadau iechyd yn y GwyddonLe

Thema’r GwyddonLe eleni oedd Iechyd, ac i gyd-fynd â dathliadau canmlwyddiant yr Urdd ac o gofio’n p

gan Elin Wyn Owen

Profodd y GwyddonLe, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Abertawe, i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd maes Eisteddfod yr Urdd eleni eto.

Thema’r GwyddonLe eleni oedd Iechyd, ac i gyd-fynd â dathliadau canmlwyddiant yr Urdd ac o gofio’n profiadau yn ystod pandemig COVID19, roedd arddangosfa arbennig yn dathlu canrif o ddatblygiadau ym maes meddygaeth ac iechyd.

Roedd yr arddangosfa ar ffurf taith yn rhannu gwybodaeth am y cerrig milltir meddygol sydd wedi newid y byd ers 1922. Yna, ar ddiwedd y daith, roedd cyfle i bawb nodi eu hoff ddatblygiad o’r ganrif ddiwethaf a rhannu eu syniadau am yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu dros y can mlynedd nesaf.

“Roedd yn hyfryd croesawu pawb yn ôl atom,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi. “Ar ôl dwy flynedd o gyfrannu trwy ddulliau digidol at fwrlwm Eisteddfod T, roeddem wrth ein boddau o gael dychwelyd i faes Eisteddfod yr Urdd ac ailgyflwyno pobl ifanc Cymru i hwyl a chyffro’r GwyddonLe.

“Gyda’n thema eleni yn cydblethu â dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, roedd y GwyddonLe yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am y datblygiadau sydd wedi eu gweld ym maes gofal iechyd a meddygaeth yn ystod canrif yr Urdd.

“Ac fel sydd wedi bod yn arferol yn y GwyddonLe, cafodd plant a phobl ifanc gyfle i ddysgu am y datblygiad hwn trwy bob math o sioeau, arbrofion, cwisiau a chrefftau hwyliog. Roedd yr ymateb yn wych, a braf oedd gweld inni lwyddo i gael rhywbeth at ddant pawb.”