Arwain y ffordd a rhagori mewn ymchwil rhyngwladol

Yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil am 2021, mae 86 y cant o ymchwil y Bri

gan Elin Wyn Owen

Parhau i ddringo’n uwch mae enw da Prifysgol Abertawe am safon ei gwaith ymchwil.

Yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil am 2021 (REF2021), mae 86 y cant o ymchwil y Brifysgol yn cael ei raddio’n 4* (arwain y ffordd yn fyd-eang) neu’n 3* (rhagori’n rhyngwladol).

Mae hyn yn cymharu â sgôr gyfatebol o 80 y cant yn 2014 pan fu’r Brifysgol yn cymryd rhan yn REF2014.

Roedd Abertawe yn un o 157 o sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig a gafodd eu hasesu y llynedd ar sail

  • Ansawdd yr ymchwil a gyhoeddwyd
  • Effaith a buddion ehangach yr ymchwil
  • Ansawdd yr amgylchedd ymchwil.

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol dros Ymchwil ac Arloesi fod y canlyniadau’n adlewyrchu cynnydd sylweddol yn y gweithgarwch ymchwil yn Abertawe.

“Mae nifer y dyfarniadau PhD wedi bron â dyblu dros yr wyth mlynedd diwethaf, a’n hincwm ymchwil wedi cynyddu 160 y cant yn ystod yr un cyfnod, o £148m i £286m,” meddai.

“Yn rhyngwladol, mae ein bri byd-eang fel partner ymchwil cydweithredol yn ffynnu, gyda’n rhwydweithiau academaidd a busnes bellach yn cwmpasu 127 o wledydd, ac mae 54 y cant o’n hallbynnau ymchwil yn cael eu llunio gan gyd-awduron.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, fod y gydnabyddiaeth yn gryn destun balcher i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant.

“Mae canlyniadau REF2021 yn cadarnhau bywiogrwydd ein hamgylchedd ymchwil ac effaith ein hymchwil yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang,” meddai.