Aelwyd yr Elyrch yn cystadlu am y tro cyntaf

Er na chafodd yr Aelwyd lwyddiant wrth gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Grŵp Llefaru dan 25, roedd

gan Elin Wyn Owen

Testun balchder arall i’r Brifysgol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd oedd gweld aelodau o Aelwyd yr Elyrch yn cystadlu am y tro cyntaf.

Er na chafodd yr Aelwyd lwyddiant wrth gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Grŵp Llefaru dan 25, roedd pawb yn llongyfarch y myfyrwyr am eu brwdfrydedd.

Dim ond ychydig fisoedd ynghynt yr aeth y myfyrwyr ati i greu eu haelwyd eu hunain yn y Brifysgol – wrth gael eu hysbrydoli gan fwrlwm dathliadau canmlwyddiant yr Urdd.

Cafodd Aelwyd yr Elyrch ei lansio ar ddiwrnod penblwydd yr Urdd yn 100 ddechrau’r flwyddyn, ac mae’n cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau’r Brifysgol.

Mae’r Aelwyd yn gweithio’n agos iawn gyda’r Gymdeithas Gymraeg, y Swyddog Materion Cymraeg ac Undeb y Myfyrwyr i gynnig y dewis llawnaf posibl o weithgareddau i fyfyrwyr Cymraeg a’r rheini sy’n dysgu’r iaith.

“Mae sefydlu Aelwyd yr Elyrch wedi creu dolen gyswllt bwysig rhwng y Brifysgol a’r Urdd,” meddai Megan Sass, Arweinydd cyntaf yr Aelwyd. “Pa well ffordd o nodi canmlwyddiant mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop na thrwy alluogi myfyrwyr i ymuno â’i gymuned fawr o blant a phobl ifanc.

“Mae ein Haelwyd yn cynnig cyfleoedd i aelodau gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy.

“Dw i’n hyderus y bydd Aelwyd yr Elyrch yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu i fod yn elfen hanfodol o fywyd Cymraeg Prifysgol Abertawe.”