GwyddonLe oedd un o atyniadau mwyaf poblogaidd Eisteddfod-T yr Urdd eleni eto, gyda chyfres o ddigwyddiadau byw, adnoddau a fideos difyr i’r teulu cyfan dan nawdd Academi Hywel Teifi.
Mewn fideos a gafodd eu creu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol, cafodd plant a phobl ifanc gyfle i wneud amrywiaeth o arbrofion gartref mewn pob math o feysydd gwahanol, o ddeall planhigion i adeiladu batris, o feistroli mathemateg i ailgreu ffrwydriad llosgfynyddoedd a dysgu am y corff a’r meddwl dynol.
Manteisiodd 54 o blant ar y cyfle hefyd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth y GwyddonLe trwy anfon fideo ohonyn nhw eu hunain yn cynnal arbrawf gwyddonol a’r enillydd oedd Non Enlli Dafydd, o Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst.
“Roedd yn bleser cael cymaint o fideos o ansawdd uchel a diolch i’r holl gystadleuwyr am eu hymdrechion,” meddai’r beirniad Dr Alwena Morgan o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol.
Meddai Saran Thomas, cydlynydd y GwyddonLe ar ran Academi Hywel Teifi: “Roedd yn wych cael cyfrannu gwledd o weithgareddau trwy GwyddonLe-T unwaith eto eleni gan arddangos ehangder arbenigeddau gwyddonwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe ac ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.”
Uchafbwynt arall i’r Brifysgol yn EisteddfodT oedd dathlu llwyddiant un o’n myfyrwyr, Sioned Medi Howells, a enillodd wobr y Prif Lenor. Mae Sioned, sy’n hanu o Bencader, yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn astudio BMid Bydwreigiaeth. Ym marn y beirniad a’r awdur Caryl Lewis, mae gwaith Sioned yn “gadael y darllenydd yn ysu am fwy”.