Troi gofid yn obaith – effaith Covid ar y Gymraeg

“Gall gymryd rhai blynyddoedd cyn y byddwn yn sylweddoli llawn effaith y pandemig ar y Gymraeg”

‘Gofid neu Gyfle?’ oedd testun cynhadledd undydd a gafodd ei chynnal gan Academi Hywel Teifi ym mis Mawrth i ystyried effeithiau tebygol Covid-19 ar sefyllfa’r Gymraeg.

Fe fu siaradwyr y gynhadledd rithwir yn trafod effaith y pandemig ar bob math o feysydd, gan gynnwys addysg, technoleg, gwaith cymunedol a mannau gwaith.

“Nod y gynhadledd oedd ceisio rhannu gwersi, arferion da a chamau cadarn y gallwn ni eu cymryd er mwyn rhoi gwydnwch pellach wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y Gymraeg,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

“Y peth pwysig oedd rhoi cyfle i’r sefyllfa gael ei hystyried o ddifrif ac, wrth wneud hynny, roedd rhai effeithiau cadarnhaol yn dod i’r amlwg, er enghraifft wrth glywed am sut y mae technoleg wedi caniatáu i bobl fanteisio ar gyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg o’r newydd.

“Daeth dros 120 o gynadleddwyr ynghyd a bu’r trafodaethau yn adeiladol iawn.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfraniadau gwerthfawr ac am rannu eu syniadau ar sut i droi’r gofid yn obaith.”

Gall gymryd rhai blynyddoedd cyn y byddwn yn sylweddoli llawn effaith y pandemig ar y Gymraeg, ym marn un o’r prif siaradwyr, Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

“Dydi’r darlun cyflawn ddim gynnon ni oherwydd mae’r dystiolaeth yn dameidiog ar hyn o bryd,” meddai. “Mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i gasglu a dadansoddi gan gadw golwg ar y tymor hir. Rhaid sicrhau hefyd bod y llywodraeth yn ystyried natur yr effaith wrth geisio gwireddu amcanion Cymraeg 2050.”

Mewn ymdrech i sicrhau bod y trafodaethau adeiladol a dadlennol a gynhaliwyd yn cael eu clywed ar raddfa ehangach a’u hystyried er mwyn sicrhau newidiadau all warchod yr iaith mewn cyd-destunau megis pandemig a’i effeithiau, mae’r Academi wedi rhyddhau recordiadau o’r holl sesiynau ar ei gwefan. Mae hefyd wedi llunio adroddiad sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer llywodraeth newydd Cymru ac awdurdodau lleol, ynghyd â chamau nesaf y gallai cynadleddwyr a chefnogwyr y Gymraeg eu gweithredu.