Swyddog Materion Cymraeg yn troi at arwain yr Undeb

Katie Phillips, o Ferthyr, yn cael ei hethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Mae cael ei hethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn goron ar flynyddoedd o weithgarwch diflino dros y Gymraeg i gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Katie Phillips, sy’n wreiddiol o Ferthyr, oedd swyddog llawn-amser Materion Cymraeg yr Undeb dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth y llynedd.

Roedd hynny’n cynnwys mynnu chwarae teg i fyfyrwyr Cymraeg, hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant, sicrhau dwyieithrwydd drwy’r holl Brifysgol a threfnu pob mathau o weithgareddau cymdeithasol i fyfyrwyr o fewn cyfyngiadau Covid.

“Dw i wrth fy modd yn gallu defnyddio fy mhrofiad a’m llwyfan fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i weithredu fy angerdd dros yr iaith a’r diwylliant Cymraeg,” meddai.

“Ar ôl blwyddyn anodd i fyfyrwyr, dw i a gweddill tîm yr Undeb yn llawn brwdfrydedd i ddefnyddio ein hamser yn ein swyddi i roi’r flwyddyn orau bosibl i’n haelodau.”