Sŵn y Stiwdants yn tynnu sylw at y Coleg Cymraeg

Denu myfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg yw nod podlediad sy’n cael ei greu a’i gynhyrchu gan fyfyrwyr

Denu myfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg mewn prifysgolion a manteisio ar gyfleoedd trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw nod podlediad sy’n cael ei greu a’i gynhyrchu gan fyfyrwyr.

“Hwyl a rhoi’r byd yn ei le!” yw’r disgrifiad swyddogol o Sŵn y Stiwdants, sydd i’w glywed ar Spotify, lle mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau o fywyd prifysgol.

Mae nhw’n lledaenu’r neges am fanteision addysg Gymraeg ar wefan, a thudalennau Facebook ac YouTube y Coleg Cymraeg ac ar dudalennau Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’.

Eleni penodwyd pump o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i chwarae rhan amlwg ynddo a hwythau ymhlith 26 o lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef:

• Elen Wyn Jones (Cymraeg, Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau)

• Emily Louise Evans (Cymraeg)

• Alaw Grug Harries (y Gyfraith a Throseddeg)

• Lois Medi Williams (Nyrsio Oedolion)

• Stuart Michael John Denman (Nyrsio Oedolion)

“Mae Sŵn y Stiwdants wedi bod yn gyfle gwych dros y flwyddyn ddiwethaf i fyfyrwyr Abertawe fod yn rhan o ymgyrch genedlaethol ac i amlygu sut brofiad yw hi i fod yn fyfyriwr mewn prifysgol yng Nghymru. Er y sefyllfa anarferol mae nhw wedi gwneud y mwyaf o bob cyfle gan ddal ati i hyrwyddo’r cyfleoedd a’r manteision sy’n dod wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny mewn ffyrdd ychydig yn fwy creadigol na’r arfer!” meddai Lois Wyn Griffiths, Swyddog Cangen y Coleg ym Mhrifysgol Abertawe.