‘Sefyll gyda’n chwiorydd ar draws y byd’

Myfyrwyr o Brifysgol Abertawe i gyflwyno neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd 2021

“Ni yw ieuenctid Cymru yn sefyll gyda’n chwiorydd ar draws y byd” oedd datganiad myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wrth iddyn nhw gael eu dewis i gyflwyno neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd 2021.

Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd gydweithio â phrifysgol ar y neges ryngwladol, sydd yn gant oed y flwyddyn nesaf ac, os bydd rheoliadau’r pandemig yn caniatáu, y gobaith yw y bydd rhai o’r myfyrwyr yn cael teithio i Efrog Newydd ar gyfer digwyddiad yn adeilad UN Women yn yr hydref.

“Roedd yn fraint o’r mwyaf i’r Urdd ddewis myfyrwyr Abertawe,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi. “Cafodd y myfyrwyr lawer o brofiadau a budd wrth ddod ynghyd i drafod y thema eleni, a dysgu mwy am brofiadau a safbwyntiau ei gilydd ac eraill ledled y byd.

“Wrth i’n to ifanc brofi cyfnod mor heriol yn ddiweddar, roedd llunio’r neges yn gyfle iddyn nhw feithrin hyder a chodi’u golygon i ysbrydoli eraill – rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Urdd am roi’r cyfle iddyn nhw.”

Bu’r 21 o fyfyrwyr yn dilyn gweithdai o dan ofal y bardd a’r awdur Llio Maddocks a Gwennan Mair o Theatr Clwyd wrth baratoi’r neges unigryw sydd wedi ei hanfon yn ddi-dor ers 1922, er gwaetha pob rhyfel ac argyfwng a thrwy wahanol ddulliau – o Morse Code i radio i’r We.

Cyfieithwyd y Neges eleni i 65 iaith ac fe’i rhannwyd ar draws 59 o wledydd a chofnodi cyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol o dros 400 miliwn. Yn ogystal, denwyd cefnogaeth gan lu o sefydliadau a ffigurau dylanwadol, gan gynnwys UN Women, Hillary Clinton, Michael Sheen, ac yn bwysicach na dim, filoedd o ddisgyblion ysgolion ar hyd a lled Cymru a’r byd – y genhedlaeth nesaf all wneud gwahaniaeth.

Mae cyfraniad y Neges hefyd wedi’i chydnabod gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wrth i’r Urdd a’r myfyrwyr dderbyn Gwobr Heddychwyr Digidol Ifanc y Flwyddyn a rhannu’r Wobr Heddychwyr Ifanc y Flwyddyn ar gyfer 2021.

Meddai’r Athro Elwen Evans, CF, Dirprwy Is- Ganghellor, “Rwy’n hynod falch o’r Neges sydd wedi’i llunio gan ein myfyrwyr. Mae’n cydfynd yn glir â’r math o waith mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ei gyflawni yn y maes hwn ac roedd yn dda gallu tynnu ar ein cysylltiadau rhyngwladol gwych er mwyn hyrwyddo’r Neges ar ran ieuenctid Cymru.”

 

“Roedd cyfrannu at y gwaith o lunio’r Neges Heddwch yn brofiad anhygoel, yn enwedig gallu cydweithio a thrafod gyda phobl ysbrydoledig sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth. Dw i wedi elwa o’r profiad yn fawr, yn enwedig wrth i’r holl gyfranwyr rannu syniadau am sut y gallwn ni wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac yn ehangach.”

Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan, sy’n astudio Cymraeg yn y Brifysgol.

 

“Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli i anelu’n uchel, boed hynny ar gyfer swyddi uchelgeisiol neu yn fy mywyd personol. Roedd hi’n dda cael ystyried y profiad o fod yn fenyw, yr heriau ond hefyd y pethau ysbrydoledig. Rwy’n teimlo’n falch o fod yn fenyw ac o fod yn rhan o’r genhedlaeth bwerus hon.”

Katie Phillips o Ferthyr Tudful, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Alpha Evans, Katie Phillips, a Theresa Ogbekhiulu

“Rwy’n credu’n gryf yng ngrym a gallu menywod i feddiannu lleoedd na chawsant erioed eu cynllunio ar ein cyfer, a gwneud newidiadau effeithiol yn ein byd heddiw. Byddaf yn dal ati i hyrwyddo hanfod neges yr Urdd eleni, i gefnogi menywod, a mynd ati i godi llais yn erbyn anghyfiawnder.”

Theresa Ogbekhiulu o Nigeria, Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr.

 

“Fe wnes i fwynhau’r broses o gyfrannu at lunio’r Neges gan gwrdd â phobl newydd, clywed am eu profiadau ac fe ddysgais i gymaint wrth bawb. Dw i’n ymrwymo i fod yn llais dros y rheini sy’n wynebu anghydraddoldeb neu anghyfiawnderau ac yn ei gweld hi’n anodd i sefyll lan dros eu hunain ar y pryd.”

Shannon Rowlands o Gastellnewydd Emlyn, MB BCh Meddygaeth i Raddedigion.

Shannon Rowlands a Daniel Hall-Jones

“Ro’n i’n awyddus i elwa ar y cyfle hwn i fod yn rhan o ymgyrch sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol yn erbyn menywod a cheisio eu grymuso i sicrhau dyfodol mwy cyfartal. Drwy gyfrannu i’r Neges dw i wedi dod yn fwy hyddysg am y pwnc ac am ffyrdd i weithredu er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, arloeswyr, a dinasyddion y byd.”

Daniel Hall-Jones, Pencader, BSc Rheolaeth Busnes.

 

“Mae’r profiad wedi bod yn un bendigedig. Dwi’n hynod o ddiolchgar i’r holl fenywod a deimlodd yn gyfforddus i rannu profiadau a storiâu personol yn fy nghwmni. Rwy’ wedi ymrwymo i barhau i wrando ar fenywod ac addysgu fy hunan er mwyn parhau i siarad allan yn erbyn anghydraddoldeb rhyw. Dwi hefyd am geisio dylanwadu ar ddynion a phwysleisio ei bod hi yn bosibl i fod yn ddyn sy’n ffeminist ac sy’n cefnogi hawliau menywod.”

Tom Kemp o Bontypridd, BSc Daearyddiaeth.

Tom Kemp a Marged Ann Smith

“Mae’n bwysig annog ieuenctid y byd i ddeall a galw am gydraddoldeb gan ei fod yn effeithio ar bawb o bob cenedl, diwylliant a hunaniaeth. Roedd y pwnc yn plethu’n hyfryd gyda fy astudiaethau. Mae’r profiad o gyfrannu at y neges wedi dangos i mi fod fy llais yn werthfawr a gallaf ei defnyddio i wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas.”

Marged Ann Smith o Rhydargaeau, MA Datblygu a Hawliau Dynol.