Noddi llwyfan Llais Tafwyl

Academi Hywel Teifi yn cyfrannu unwaith eto at lwyddiant Tafwyl

Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni, roedd Academi Hywel Teifi yn falch o gael cyfrannu unwaith eto at ei llwyddiant.

Trwy nawdd yr Academi i lwyfan Llais yr ŵyl, cafodd cyfres o ddeg o wahanol ddigwyddiadau llenyddol eu cynnal ar-lein i bobl o bob oed yn ystod Wythnos Tafwyl, 9 -16 Mai 2021. Ac roedd dwy sesiwn wedi eu trefnu gan yr Academi ei hun.

Yr Actor a’i Stori – Tafwyl. Andrew Teilo a Tudur Hallam

Yn Yr Actor a’i Stori, bu’r actor Andrew Teilo yn trafod ei awydd i droi’n awdur a’r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion ar gyfer ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mewn sgwrs â’i diwtor, yr Athro Tudur Hallam, fe fu’n sôn am ei daith greadigol i fyd y stori fer a chyflwyno ambell gymeriad a stori newydd.

Yn y sesiwn Hanes Cymry, fe fu Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth y Brifysgol yn cyflwyno ei gyfrol newydd Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg, a gafodd ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin. Dyma’r gyfrol gyntaf am hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg ac mae’n ffrwyth ymchwil blynyddoedd.

Hanes Cymry – Tafwyl. Gwennan Higham a Dr Simon Brooks

Y nod oedd trafod lle diwylliannau eraill o fewn y diwylliant Cymraeg, meddai, wrth sgwrsio gyda’r arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe.

“Yr hyn dw i’n ei ddangos ydi bod y Gymru Cymraeg bob amser wedi bod yn aml-ethnig, bod ein diwylliant i raddau wedi deillio o gyfuniad o ddiwylliant Lladinaidd y Rhufeiniaid ar y naill law a’r diwylliant Brythonig ar y llaw arall. Dros y canrifoedd mae’r diwylliant hwnnw wedi cynnwys cymunedau Roma, Gwyddelig ac Iddewig ymhlith eraill.”

Meddai Lynsey Thomas, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo Academi Hywel Teifi: “Mae Tafwyl yn ŵyl arbennig ar gyfer hybu’r iaith ac i ddathlu’n Cymreictod, ac mae’n fraint cael llwyfan yn yr ŵyl i rannu gwaith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe.”