Myfyrwyr meddygaeth yn bachu’r cyfle i ddysgu Cymraeg

Mae mwy nag erioed o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Abertawe yn manteisio ar gyfle i ddysgu Cymraeg

Mae mwy nag erioed o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Abertawe yn manteisio ar gyfle i ddysgu Cymraeg, yn sgil cwrs newydd i ddechreuwyr dan adain Academi Hywel Teifi.

Mae 62 o fyfyrwyr y cwrs Meddygaeth i Raddedigion wedi bod yn dilyn gwersi wythnosol trwy ddosbarthiadau rhithiol, gan ddysgu geirfa a brawddegau sy’n berthnasol i’r byd meddygol. Yr hyn sy’n eu cymell yw gwybod y byddant, o ddysgu rhywfaint o Gymraeg, yn gallu darparu gwell gofal i gleifion Cymraeg eu hiaith.

“Er nad yw pob myfyriwr yn disgwyl gweithio yng Nghymru yn y dyfodol, maen nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu ychydig o Gymraeg i’w defnyddio wrth hyfforddi mewn ysbytai yng Nghymru,” meddai Emyr Jones, tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. “Bydd hyd yn oed defnyddio ymadroddion syml yn gwneud byd o wahaniaeth i helpu cleifion i ymlacio.”

Mae’r myfyrwyr yn dilyn esiampl yr Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn y Brifysgol, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg.

“Wrth gael eu croesawu i Gymru, mae ein myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi llwyr gofleidio byw ac astudio yng Nghymru,” meddai. “Maen nhw wedi dangos gwir frwdfrydedd i ddysgu Cymraeg ac i gymathu gyda phobl Cymru. Byddai’n hyfryd eu gweld yn aros yma!”

A dyma farn y myfyrwyr

Giorgia, o’r Eidal

“Dw i eisiau dysgu Cymraeg achos dw i’n meddwl bydd dysgu geiriau sylfaenol Cymraeg yn fy helpu i greu perthynas gyda fy nghleifion pan fyddaf ar leoliadau clinigol. Er na fyddaf yn aros yng Nghymru drwy gydol fy ngyrfa, mae’n gyfle gwych i mi ymestyn fy ngorwelion diwylliannol. Diolch am y cyfle!”

Ruchika, o India

“Fe wnes i ymuno â’r cwrs dysgu Cymraeg er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol a gallu siarad yn hyderus â chleifion fel myfyrwraig ac fel meddyg yn nes ymlaen. Dw i yn gallu defnyddio cyfarchion Cymraeg gyda ffrindiau. Mae’n rhoi gwên ar eu hwynebau!”

Tanvi, o Seland Newydd

“Pan benderfynais symud i Gymru, un o fy mhrif flaenoriaethau oedd dysgu Cymraeg, yn enwedig o ystyried y byddwn yn gweithio mewn cymunedau ble mai’r Gymraeg fyddai iaith gyntaf nifer o bobl… dw i wedi mwynhau’r gwersi Cymraeg yn fawr hyd yma ac yn edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf.”

Francis, o Port Talbot

“Fe welais glaf yn dioddef o ddeliriwm, ac roedd wedi cynhyrfu tipyn. Doedd y staff ddim yn gallu ei thawelu wrth siarad Saesneg ond yn syth ar ôl dweud ambell frawddeg yn ei hiaith gyntaf, Cymraeg, dechreuodd ymateb ac roedd hyn yn help i’w chysuro a’i chefnogi.”

Catrin, o Sgeti, Abertawe

“Fy mwriad yw gweithio yng Nghymru, felly dw i’n gobeithio gallu siarad ychydig o Gymraeg gyda chleifion sy’n siaradwyr Cymraeg er mwyn iddyn nhw deimlo’n fwy cartrefol.”

Constantinos, o Gyprus

“Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi pwrpas i fi. Fel meddyg y dyfodol, mae gofyn arnaf i wella fy sgiliau cyfathrebu yn ystod fy hyfforddiant meddygol. Mae’r cwrs hwn wedi caniatáu i fi wneud hynny a nawr dw i’n meddwl y bydda i’n gallu rhyngweithio gydag ystod ehangach o gleifion a chydweithwyr. Dw i’n teimlo bod y cwrs wedi fy ngalluogi i ddangos parch yn ôl i wlad a diwylliant sydd wedi fy natblygu i’n academaidd ac yn bersonol dros y tair blynedd ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd eto.”