Meistroli’r dadleuon hinsawdd

Gwenno Robinson oedd enillydd cystadleuaeth siarad cyhoeddus flynyddol Her Sefydliad Morgan

Gwenno Robinson o Ysgol Gyfun Gŵyr oedd enillydd cystadleuaeth siarad cyhoeddus flynyddol Her Sefydliad Morgan yn EisteddfodT eleni.

Yn ogystal ag ennill £250 i’w hysgol, fe fydd hi’n cael manteisio ar brofiad gwaith o dan ofal Academi Hywel Teifi.

Dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, y ganolfan ymchwil er cof am y cyn-brif weinidog Rhodri Morgan, denodd y gystadleuaeth ar-lein dros 9,000 o wylwyr.

Fe fu chwech o gystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon gwybodus o blaid ac yn erbyn y cwestiwn ‘Ai nawr yw’r amser i ddatgan argyfwng hinsawdd?’ sef Lleucu a Rhiana o Ysgol Bro Morgannwg, Rhiannon ac Osian o Ysgol Bro Dinefwr, a Cadi a Gwenno o Ysgol Gyfun Gŵyr. Y

beirniaid eleni oedd yr Aelod Seneddol, Ben Lake, a’r arbenigwr newid hinsawdd, Yr Athro Siwan Davies, Pennaeth Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, Prifysgol Abertawe.

“Braint oedd cael beirniadu cystadleuaeth o’r fath safon, ac mi roedd hi’n dipyn o ben tost dewis enillydd,” meddai Ben Lake. “Pob clod i’r disgyblion a’u hysgolion, a llongyfarchiadau i’r Academi am drefnu’r gystadleuaeth ac am roi cyfle euraidd iddyn nhw.”