Y Gymraeg ar gynnydd mewn gofal ac iechyd

Mwy o gyfleoedd nag erioed i astudio pynciau gofal a iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd mwy o gyfleoedd nag erioed i feddygon, bydwragedd, parafeddygon a fferyllwyr y dyfodol astudio’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Ym maes Gwyddor Barafeddygol, bydd myfyrwyr Cymraeg yn cael eu hyfforddi gan Peter Jones, parafeddyg a thiwtor clinigol gyda mwy na 20 mlynedd o brofiad gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mewn Bydwreigiaeth, mae penodi Sharon Jones i gydweithio ag Anneka Bell yn golygu y bydd y myfyrwyr yn elwa ar arbenigedd dwy fydwraig brofiadol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd cefnogaeth i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn rhan greiddiol o radd uwch mewn Fferylliaeth – fe fydd y cwrs MPharm yn dechrau ym mis Hydref.

Ym maes Seicoleg, fe fydd 40 credyd ar gael trwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn o hyn ymlaen dan arweiniad Dr Kyle Jones.

Parhau i fynd o nerth i nerth mae’r ddarpariaeth Gymraeg ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion gyda phenodi Dr Angharad Wyn, meddyg teulu dan hyfforddiant yn Sir Gaerfyrddin yn Addysgwr Meddygaeth Deuluol, a Dr Lauren Blake yn Gyfarwyddwr Darpariaeth Addysg Gymraeg ac Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol.