Lle mae gwyddoniaeth yn dod yn fyw

Oriel Science Prifysgol Abertawe wedi ailagor ddiwedd mis Mai mewn cartref newydd

“Gwneud i wyddoniaeth ddod yn fyw” yw addewid Oriel Science Prifysgol Abertawe, a ailagorodd ddiwedd mis Mai mewn cartref newydd yn Stryd y Castell yng nghanol y ddinas.

Yno, rhwng 10am a 4pm bob penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol, bydd cyfle i ymwelwyr o bob oed ddarganfod rhyfeddodau’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe, a hynny trwy arddangosfeydd, gweithdai a sgyrsiau.

Cartref newydd Oriel Science

Yn 2016-17, mewn safle dros dro, denodd yr Oriel bron 16,000 o ymwelwyr a mwy na mil o blant mewn 100 niwrnod – y gobaith yw y bydd y safle newydd yn fwy poblogaidd fyth.

Bydd yn agor gyda dwy arddangosfa, sef ‘Symud a Mudiant’ ac ‘Ymateb Prifysgol Abertawe i Covid-19’ – y naill yn dangos sut mae rhewlifoedd yn ymchwyddo yn yr Arctig, sut y gall seinyddion uwchsonig achosi i ronynnau esgyn i’r awyr, a beth yw hyd breichiau pobl o gymharu ag adenydd condor, a’r llall yn dangos sut y mae myfyrwyr a staff ymchwil y Brifysgol wedi helpu’r gymuned leol a gweithwyr rheng flaen i ymateb i’r pandemig.

Arddangosfeydd newydd Oriel Science

“Mae agor lleoliad newydd Oriel Science yng nghanol y ddinas yn ddigwyddiad pwysig, yn enwedig yn ystod y flwyddyn anodd iawn hon,” meddai’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.