Mae’r Swyddog Materion Cymraeg newydd yn rhagweld dyfodol disglair i’r Brifysgol ac i’r Gymraeg yn ei gweithgareddau.
Nod Gwern Dafis, o Dalgarreg yng Ngheredigion yw arwain y ffordd a gweithio at sefyllfa pan fydd yr iaith yn cael ei chymryd yn rhan annatod o fywydau pawb yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr Abertawe.
“Gan fod Abertawe yn brifysgol sydd yng Nghymru, mae’n bwysig bod diwylliant Cymreig yn rhan sylfaenol o brofiad pob myfyriwr yma,” meddai Gwern, a fu’n Llywydd y Gymdeithas Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Gobeithio y bydd cyfle i gynnal digwyddiadau i ddathlu diwrnodau cenedlaethol Cymreig yn agored i bawb, i godi ymwybyddiaeth a balchder yn ein hanes a’n traddodiadau … a dangos hefyd bod y Gymraeg yn iaith fodern gyda diwylliant byw a chyfoes.”
Llais ym maes addysg
Ar ôl blwyddyn o wasanaethu fel Swyddog Menywod rhan-amser, mae Carys Bethan Jones o Gaerffili ar fin cychwyn ar ei gwaith yn Swyddog Addysg llawn-amser i Undeb y Myfyrwyr.
Hi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod gan bob myfyriwr lais yn eu haddysg, gan gydweithio â holl gyfadrannau’r Brifysgol, ynghyd â 350 o gynrychiolwyr pynciau.
“Mae’r Gymraeg wedi chwarae rhan enfawr yn fy addysg ers fy nyddiau ysgol,” meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol Cwm Rhymni sydd bellach yn astudio gradd Meistr mewn Troseddeg.
“Yn fy rôl fel Swyddog Addysg dw i wrth fy modd o allu gwella’r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg, yn ogystal ag annog pob myfyriwr i chwarae eu rhan yn y wlad ryfeddol hon sy’n gartref inni.
“Dw i wedi cael fy ysbrydoli gan fy amser yn fyfyriwr i helpu eraill fanteisio i’r eithaf ar eu profiad yn y Brifysgol!”