Cydnabod dysg arloeswr ym maes optoelectroneg

Mae Dr Emrys Evans ymhlith enillwyr Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni

Mae un o gymrodyr ymchwil y Gymdeithas Frenhinol yn adran Cemeg y Brifysgol wedi cael ei anrhydeddu am ei waith addawol ym maes optoelectroneg.

Mae Dr Emrys Evans ymhlith enillwyr Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni, gwobr sy’n cael ei dyfarnu i gydnabod rhagoriaeth ymchwil yn gynnar mewn gyrfa.

Derbyniodd y fedal yng nghategori STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth) y Gymdeithas yn eu cyfarfod blynyddol ym mis Mai.

“Mae’r maes dw i’n gweithio ynddo, sef Cemeg Ffisegol, ar y ffin rhwng Cemeg a Ffiseg,” esboniodd.

“Dw i’n ymchwilio i ddeunyddiau moleciwlaidd a’u priodweddau electronig, magnetig ac optegol, ac mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar sut mae’r deunyddiau hyn yn rhyngweithio â golau.

“Dw i’n archwilio sut mae goresgyn terfynau effeithlonrwydd mewn optoelectroneg a chynhyrchu golau mewn modd mwy ynni-effeithlon.

“Wrth edrych i’r dyfodol dw i’n edrych ymlaen at y cyfleoedd i’r deunyddiau hyn rydym yn eu datblygu yn fy labordy fod yn sail i dechnolegau newydd.”

Ar ôl blynyddoedd ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergaint, dychwelodd i’w ddinas enedigol y llynedd i arwain ymchwil yn y Brifysgol ar ‘Ynni radical a rheoli troelli mewn electroneg organig’.

“A minnau wedi cael fy magu yn Abertawe roedd yn wych cael dychwelyd i wneud fy ngwaith ymchwil yng Nghymru. Dw i wrth fy modd i dderbyn y fedal hon.”