Chwilio am atebion i argyfwng iaith yn y Gymru Gymraeg

Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru

Mae adroddiad a gafodd ei gyd-gomisiynu gan Academi Hywel Teifi yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng ail gartrefi yng Nghymru er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg.

Dr Simon Brooks, Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yw awdur yr adroddiad Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, sy’n cyflwyno 12 o argymhellion polisi i’r Llywodraeth.

Clawr adroddiad Dr Simon Brooks

Cafodd ei gomisiynu wedi i Academi Hywel Teifi dderbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond, yn sgil diddordeb gwleidyddol cynyddol yn y pwnc, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r ymchwil gael ei ehangu a chynnwys argymhellion.

Mae’r adroddiad terfynol yn trafod effeithiau Brexit a’r pandemig, ac effaith ail gartrefi ar ddyfodol cymunedau a’r Gymraeg.

Problem ranbarthol yn hytrach na chenedlaethol yw ail gartrefi, yn ôl Simon Brooks, ac mae angen atebion polisi cyhoeddus ar y lefel honno.

“Dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu amrywiadau polisi oddi mewn i fframwaith cenedlaethol, a fydd yn ddigon hyblyg fel bod modd eu gweithredu mewn gwahanol ffyrdd yn ôl anghenion rhanbarthol a lleol,” meddai yn yr adroddiad.

Ymysg y mesurau penodol mae’n eu hargymell mae:

• codi premiwm y dreth cyngor lleol ar ail gartrefi i 100%

• gosod amodau marchnad leol ar dai newydd mewn rhai cymunedau

• treialu cael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ annedd yn ail gartref

Gan fod llawer o’r ardaloedd hyn ymhlith cadarnleoedd y Gymraeg, mae’r adroddiad yn galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i wneud argymhellion am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Mae’r broblem ail gartrefi yng Nghymru yn effeithio ar bedwar cyngor yn fwy na’r un arall, a thri ohonyn nhw yn rhan o ‘graidd’ y Gymru Gymraeg draddodiadol,” meddai Dr Brooks.

“Mae’n briodol felly fod Llywodraeth Cymru yn ystyried ail gartrefi fel problem o bwys o safbwynt cynllunio ieithyddol.

“Ond bydd angen polisïau newydd mewn llawer iawn mwy o feysydd nag ail gartrefi yn unig os yw cymunedau Cymraeg am gael eu sefydlogi dros y ddegawd neu ddau nesaf.

“Gallai holl ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn rhannau eang o’r wlad fod yn y fantol.”