Arwr Tawel y cae rygbi a wardiau geni

Mae Tirion Thomas newydd gwblhau blwyddyn gyntaf ei chwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe

Mae enillydd un o Wobrau Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru eleni yn treulio mwy o amser bellach mewn wardiau geni nag ar y cae rygbi.

Mae Tirion Thomas, a ddaeth yn fuddugol yng nghategori’r Arwr Tawel, newydd gwblhau blwyddyn gyntaf ei chwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Enillodd y ferch 20 oed ei gwobr am ei hymroddiad wrth hyfforddi merched dan 13 oed, dan 15 oed a than 18 oed Y Bala, yn ogystal â bod yn gapten ar dîm dan 18 Clwb Rygbi Gogledd Cymru. Mae hi hefyd yn ffigwr allweddol o fewn Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Cymru, a gaiff ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol.

“Dw i wedi lleihau fy ymrwymiadau rygbi oherwydd fy mod i’n gwybod mai dyma’r amser i ymroi i’ ngyrfa hirdymor,” meddai. “Er hyn, mae’r gamp yn rhan bwysig o ‘mywyd i o hyd, yn enwedig yn ystod y pandemig.

“Mae’n fy ngalluogi i wneud yr hyn dw i’n ei fwynhau yn ogystal â hybu fy iechyd meddwl – sy’n bwysig iawn wrth gwblhau cwrs trwm sy’n cynnig heriau unigryw. Mae rygbi’n hollbwysig i mi – fel chwaraewr, hyfforddwr neu gefnogwr – ac rwy’n teimlo bod y gymuned rygbi’n un teulu mawr sy’n rhoi rhwydwaith cymorth gwych i rywun.”

Dywedodd Susie Moore, Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth y Brifysgol ei bod wrth ei bodd o glywed am lwyddiant Tirion.

“Mae’r ffaith ei bod wedi dangos cymaint o ymrwymiad ac ymroddiad i rywbeth sy’n bwysig iddi yn dweud cyfrolau amdani,” meddai.

Oherwydd ei gwaith ai pharodrwydd i gefnogi eraill i fanteisio ar gyfleoedd mewn rygbi, mae Tirion bellach wedi’i henwebu am Wobr y Loteri Genedlaethol 2021 yn y categori Chwaraeon. Mae’r gwobrau yn dathlu unigolion a grwpiau ysbrydoledig sy’n cyflawni pethau anhygoel o fewn eu cymuned a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref.